Mawrth 25 2009
Mae Joanna newydd ennill Ysgoloriaeth i Ysgrifennwyr yr Academi, yr Asiantiaeth Hyrwyddo Llenyddiaeth Cenedlaethol Cymru.
Mae’r ysgoloriaeth yn rhoi amser i ysgrifennwyr i ddatblygu eu gwaith a bydd Joanna’n defnyddio ei hysgoloriaeth o £5,000 i weithio ar ei nofel nesa, ‘Mr Perffaith’.
Awst 16 2008
Cliciwch yma i ddarllen erthygl 'Author's Notes' yn y Western Mail (doc).
Hydref 4 2008
Siop T-hwnt, Caerfyrddin (1pm)
Awdur yn llofnodi copïau o'r nofel.
Hydref 6 2008
Y Neuadd Fawr, Canolfan Celfyddydau Aberystwyth (8pm)
Lawns Ffreshars UMCA.
Cliciwch yma i ddarllen datganiad i'r wasg (doc)
Hydref 8 2008
Siop Lyfrau Borders, Caerdydd (1pm)
Darlleniad gan yr Awdur fel rhan o Ŵyl Llên y Lli.
Hydref 15 2008
9.30pm
Eitem am 'Ffreshars' ar raglen S4C, 'Y Sioe Gelf' (ail-ddarllediad Nos Fawrth, Hydref 21 am 11pm ar S4C Digidol).
I wylio'r eitem (ar ddechrau'r ail ran o'r rhaglen) cliciwch yma
Gwasg Gomer yw un o brif gyhoeddwyr Cymru. Mae pencadlys y cwmni teuluol hwn yn Llandysul, Ceredigion ers 1892. Dros y blynyddoedd, cyhoeddodd waith gan fawrion llên Cymru – er enghraifft, T. H. Parry-Williams, Waldo, Islwyn Ffowc Elis, T. Llew Jones, Marion Eames – ac mae’n dal i arloesi gyda llu o feirdd a nofelwyr ifanc a chyffrous fel Owen Martell, Catrin Dafydd, Ceri Wyn Jones, Menna Medi, Meleri Wyn James a Llion Iwan.
Yn ogystal, mae Gomer yn arbenigo mewn llyfrau hardd, lliwgar, ac mae’r 120 teitl newdd ddaw o’r wasg bob blwyddyn – yn Gymraeg a Saesneg, i oedolion a phlant – i gyd yn Gymreig eu naws.
LOIS Y darpar gyfreithwraig ifanc a naïf sy’n 18 oed ac o sybyrbia Sir Gâr. Mae Lois yn syrthio dros ei phen a’i chlustiau gyda Daniel ac yn profi rhamant mwya cythryblus ei bywyd. Daw hi i ddysgu’n fuan nad dim ond cwrw, rhyw a rhyddid yw bywyd Prifysgol –ond fydd hi’n medru ymdopi â’i bywyd newydd?
HYWEL Yn ddiniwed a charedig, mae Hywel yn Efeng-yl ac yn ffrind gorau i Lois o’r ysgol. Mae bywyd Prifysgol yn codi ofn arno ac mae’n teimlo’n gwbl estron nes iddo gyfarfod â Meleri, y ffreshar bach gwyllt. Ond pwy fydd e’n dewis, ei deulu ceidwadol a chrefyddol, neu ei gariad newydd cyffrous?
CERYS Jezebel rhywiol y neuadd –mae pob merch eisiau bod fel Cerys ac mae pob bachgen eisiau bod gyda Cerys. Ond pan mae’n dechrau perthynas gudd gyda Marc Arwel, y darlithydd priod a thwyllodrus –mae’n darganfod gwir beryglon serch.
MARC ARWEL Yr Angel penffordd mewn Armani –dyma’r dyn y mae’r merched oll yn ei ffansïo ond mae yna greadur sinistr y tu ôl i’r wen. Ac am y tro cyntaf yn ei fywyd, mae ei chwant tanbaid at Cerys yn bygwth ei holl fyd.
DANIEL Y ‘pin-up’ oriog a gitarydd yn y band, Annwfn. Mae digwyddiad trychinebus yng ngorffennol Daniel wedi niweidio’i gymeriad yn ddifrifol. Gall Lois, sy’n llawn serch ac ymroddiad, ei achub o ddyfnderoedd anobaith ac euogrwydd?
FFLUR Y goth gwrthryfelgar sy’n gwrthod dilyn y pac yn y Neuadd Breswyl Gymraeg. Trwy fyw am y presennol yn unig, mae’n ceisio anghofio ei gorffennol tywyll, ond a fydd hi’n arloesi’r flwyddyn gyntaf?
CAI Prif ganwr carismataidd Annwfn a chymeriad cwbl hunan-ddinistriol. Yn dalentog tu hwnt, gall e ymladd yn erbyn ei natur dinistriol a swyn y botel whisgi?
Lluniau gan Keith Morris. Prynwch lyfr Keith, "Aber: Ysgrifau am Aberystwyth" ar www.gomer.co.uk
"Ma’ Ffreshars yn dechrau fel dyddiadur tri ffrind yn mynd i’r coleg ond yn cyrraedd lle annisgwyl o dywyll cyn y diwedd. Bechgyn drwg a merched gwaeth… tydi coleg yn hunllef!"
"And though it's a white-knuckle ride for the reader, ...the dark consequences for the characters make this a compelling modern Welsh fable. "
"Fi oedd arolygwr Joanna ar gyfer ei Gradd Meistr. Taswn i ddim ond yn gwybod bryd hynny beth oedd yn mynd ymlaen go iawn...!!! Talent diamheuol."
"Reiat o nofel yn llawn asbri dyddiau coleg-ond nid i'r gwangalon!"
"Plotio tynn a siapus, cymeriadu cadarn ac amrywiol, ac yn dwyn i gof Aberystwyth fy ieuenctid ffôl fy hun."
Website by www.stevengoldstone.co.uk